Pwrpas y rhestr wirio hon yw helpu ymgyrchwyr NASUWT i asesu’r camau mae cyflogwyr yn eu
cymryd i asesu risgiau’r cynlluniau i agor ysgolion ar ddechrau tymor yr Hydref 2020.
Mae’r rhestr wirio’n nodi unrhyw ddiffygion allweddol posibl ym mhroses yr asesiad risg, neu yn
yr asesiad risg ei hun.
Pan fydd diffygion yn cael eu nodi, bydd angen i NASUWT fynd i’r afael â’r materion hyn, a dylid
eu cyfeirio at Swyddog Gweithredol Cenedlaethol NASUWT os nad oes modd eu datrys gyda’r
cyflogwr.
1. Mae’n rhaid i bob ysgol a lleoliad addysg arall gynnal asesiad risg newydd wrth baratoi
i agor
Nid oes asesiad risg newydd wedi cael ei ddarparu gan yr ysgol.
2. Cyflwyno'r asesiad risg
Nid yw’r asesiad risg wedi cael ei drafod â NASUWT.
3. Os oes asesiad risg newydd wedi cael ei ddarparu, nodwch a oes unrhyw rai o’r
canlynol wedi cael eu hepgor:
Nid oes archwiliad staff wedi cael ei gynnal i nodi’r athrawon sy’n perthyn i grwpiau sy’n
wynebu risg neu sydd â chyflyrau iechyd isorweddol, ac sydd angen gwarchod eu hunain,
hunanynysu neu weithio gartref o bosibl.
Nid oes asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb wedi cael ei ddarparu, sy’n ystyried athrawon
sy’n anabl a/neu o gefndir BAME.
Nid oes darpariaethau cyfarpar diogelu personol ar gyfer athrawon wedi cael eu nodi na’u
cadarnhau.
Nid oes cyfarpar diogelu personol (PPE) yn cael ei ddarparu i athrawon sydd angen cysylltiad
agos â disgyblion.
Nid oes archwiliad iechyd a diogelwch wedi cael ei gynnal o'r safle gan ‘berson cymwys’.
Nid oes asesiad risg wedi cael ei gynnal/gwblhau o'r holl dasgau a gweithgareddau y bydd
disgwyl i ddisgyblion, athrawon a staff eraill gymryd rhan ynddynt.
Nid yw’r gofynion gweithredol wedi cael eu sicrhau – gan gynnwys gofynion i ddarparu’r
holl ddeunyddiau glanhau a hylendid, cyfarpar diogelu personol a defnyddiau traul eraill
angenrheidiol.
Nid oes trefniadau priodol wedi cael eu nodi i gadw pellter cymdeithasol, neu i reoli
disgyblion mewn grwpiau neu swigod ar y safle.
Adolygiad o asesiadau risg COVID-19 cyflogwyr
ar gyfer agor ysgolion yn nhymor yr Hydref 2020
RHESTR WIRIO
Mae’r cynlluniau ar gyfer glanhau’r safle yn aneglur neu’n annigonol.
Mae’r cynlluniau glanhau’n dibynnu ar staff sydd ddim yn cael eu cyflogi i fod yn lanhawyr.
Nid oes trefniadau i ynysu disgyblion neu staff a allai ddatblygu symptomau COVID-19 pan
fyddan nhw ar y safle.
Mae’r cynlluniau i hysbysu a chynghori rhieni a disgyblion ynghylch y gofynion i sicrhau
iechyd a diogelwch yn aneglur neu’n annigonol.
Mae’r cynlluniau i hysbysu a hyfforddi staff ynghylch y gweithdrefnau i sicrhau iechyd a
diogelwch o ran COVID-19 yn aneglur neu’n annigonol.
Nodyn pwysig
Hyd yn oed os ydych chi’n fodlon â chynnwys asesiad risg, mae’n hollbwysig nad yw NASUWT
yn ymrwymo i unrhyw gytundeb ffurfiol ynghylch yr asesiad risg, er mwyn gwarchod hawliau
cyfreithiol yr aelodau yn unigol a gyda’i gilydd – er enghraifft, drwy gadarnhau cytundeb yn
ysgrifenedig mewn llythyr neu yng nghofnodion cyfarfod, neu lofnodi’r asesiad risg neu unrhyw
ddogfen arall mewn unrhyw ffordd sy’n datgan cydsyniad. Os nad oes gennych unrhyw bryderon
i’w codi ynghylch asesiad risg, neu os yw’r cyflogwr wedi rhoi sylw i’r pryderon rydych wedi’u
codi, nodwch eich bod wedi cael yr asesiad risg.
Dogfennau’r cyflogwyr yw asesiadau risg, ac mae’n rhaid iddyn nhw gymryd cyfrifoldeb llawn
dros yr asesiad risg a'r broses o’i roi ar waith.
Awst 2020