Mae’r rhestr wirio hon yn nodi’r camau allweddol y mae’n rhaid eu cynnwys yn y cynllunio wrth
baratoi i ail agor ysgolion. Mae NASUWT yn disgwyl y bydd yr holl gamau hyn wedi eu
cwblhau cyn i ysgol ail agor.
Mae’r rhestr wirio’n ystyried canllawiau’r llywodraeth ar gynllunio i ail agor ysgolion a bydd yn
cael ei haddasu fel y bo’n briodol i gyd-fynd ag unrhyw newidiadau yng nghanllawiau’r
llywodraeth a/neu ganllawiau iechyd cyhoeddus.
Mae pedair adran i’r rhestr wirio:
A – yr ysgolion lle mae’r safle wedi bod ar gau’n gyfan gwbl ers cyhoeddi’r cyfyngiadau
symud ar 23 Mawrth 2020;
B – ysgolion sydd wedi bod yn rhannol agored drwy gydol cyfnod y cyfyngiadau symud;
C y camau gweithredu i’w cymryd sy’n berthnasol i bob ysgol;
D dolenni defnyddiol at arweiniad, sy’n ychwanegol at y materion dan sylw yn adrannau
A, B ac C.
Mae’r ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch yn gofyn bod cyflogwyr yn diogelu iechyd a diogelwch
cyflogeion drwy ddiddymu neu ostwng risgiau yn y gweithle ‘cyn belled ag y bo’n rhesymol
ymarferol’. Mae hyn yn berthnasol i’r clefyd COVID-19 yn yr un ffordd ag y byddai i unrhyw berygl
arall.
Dylai cyflogwyr gofio bod y firws yn gallu, ac wedi, achosi marwolaethau ymhob grwp o bobl ac
y dylent ddefnyddio’r ffaith honno i’w tywys wrth wneud eu trefniadau ar gyfer ail agor ysgolion.
Adran A – Safleoedd ysgol sydd wedi bod ar gau i ddisgyblion a staff ers
23 Mawrth 2020
Y camau gweithredu gofynnol
Fflysio’r system ddwr yn unol â pholisi ac asesiad risg yr ysgol ar gyfer clefyd y lleng filwyr.
Gwirio nad oes unrhyw ddwr yn gollwng o’r system ddwr a bod darpariaeth o ddwr poeth.
Sicrhau diogelwch ac ansawdd y dwr drwy:
ddiheintio’r system ddwr drwy godi tymheredd gwresogi’r system; neu
brofi’r dwr yn ficrobiolegol mewn ysgolion sydd â thyrau oeri/systemau aerdymheru, a
derbyn cliriad cadarnhaol.
Profi’r larymau tân/mwg/panig a larymau’r toiledau hygyrch.
Gwirio:
mecanweithiau’r drysau tân;
cyflenwad nwy;
offer cegin;
Rhestr wirio NASUWT wrth baratoi ar gyfer
ail agor ysgolion
(parhad drosodd)
NASUWT CYMRU
Undeb yr Athrawon The Teachers’ Union
ˆ
ˆ
ˆ
ˆ
ˆ
ˆ
ˆ
ˆ
system awyru;
manylion y daliwr allweddi;
y gwifro sefydlog (os nad yw’r profion wedi eu hamserlennu sy’n ofynnol dan y rheoliadau
wedi digwydd yn y chwe mis diwethaf);
goleuadau argyfwng;
Archwilio’r lifftiau (os nad yw’r profion wedi eu hamserlennu sy’n ofynnol dan y rheoliadau
wedi digwydd yn y chwe mis diwethaf);
Arolwg o’r holl safleoedd lle mae’n hysbys bod asbestos
Mae’n bosibl bod cnofilod wedi achosi difrod i’r rhain yn ystod y cyfnod y bu’r ysgol ar gau;
Archwilio a oes olion o gnofilod a/neu blâu
Efallai y bydd angen comisiynu cwmni rheoli plâu.
Glanhau’r safle
Nid oes angen glanhau dwys os nad oes unrhyw un wedi bod ar y safle yn ystod y cyfnod
y bu ar gau. Ond, os bydd rhywun yn mynd i mewn i’r safle o fewn pum niwrnod cyn dyddiad
ei ail agor, mae’n rhaid glanhau unrhyw arwynebau cyffwrdd yn ddwys mewn unrhyw fannau
lle bu’r person hwnnw.
Gwasanaethu offer reprograffig a chyfarpar eraill
Yn unol â gofynion y gwneuthurwyr/darparwyr.
Adran B – Ysgolion sydd wedi bod yn rhannol agored i ddisgyblion
a staff penodol
Os yw rhan yn unig o safle’r ysgol wedi bod yn agored, rhaid gwneud yr holl wiriadau sydd yn
Adran A y rhestr wirio hon ymhob rhan o’r adeilad ac mewn unrhyw adeiladau eraill ar y safle
sydd wedi bod ar gau am unrhyw gyfnod o amser.
Glanhau safle’r ysgol
Os yw’r ysgol wedi bod yn rhannol agored, yna ni ddylai fod yn ofynnol i lanhau’r safle’n
ddwys heblaw bod yr Awdurdodau Iechyd Cyhoeddus wedi gofyn am hynny. Ond, dylid
rhoi blaenoriaeth i bob arwyneb cyffwrdd wrth lanhau, fel y dylai fod wedi digwydd pan oedd
yr ysgol yn rhannol agored.
Adran C – Pob ysgol
Dylid cynllunio ar gyfer ail agor yr ysgol ar sail ail ddychweliad graddol y disgyblion, ac isod mae
rhestr o’r ffactorau y mae’n rhaid eu hystyried wrth gynllunio ar gyfer ail agor.
Asesiad o argaeledd y staff ar gyfer yr holl weithgareddau yn ystod y diwrnod ysgol,
gan gynnwys goruchwyliaeth yn ystod egwyliau ac amseroedd cinio, ac ar gyfer rhoi
cymorth i ddisgyblion sydd ag anghenion arbennig neu ychwanegol, gan ystyried:
staff sydd â chyflyrau meddygol isorweddol (fel y maent wedi eu diffinio yng
nghanllawiau’r llywodraeth);
staff sy’n eu gwarchod eu hunain neu sydd ar aelwyd lle mae rhywun yn ei warchod ei hun;
staff sy’n hunanynysu, a staff ar absenoldeb mamolaeth neu unrhyw fath arall o
absenoldeb swyddogol, ac na fyddent, felly, ar gael i weithio;
argaeledd staff cyflenwi i lenwi unrhyw swyddi gwag neu absenoldebau tymor hir.
(parhad drosodd)
Diffinio’r disgwyliadau am addysgu a dysgu, gan gynnwys:
sut y rheolir nifer y disgyblion sy’n dychwelyd i’r ysgol bob dydd er mwyn sicrhau eu bod
cadw pellter cymdeithasol ac y rhoddir ystyriaeth i:
ba gategorïau o ddisgyblion allai dderbyn blaenoriaeth mewn unrhyw addasiad graddol
o’r rheolaeth ar ysgolion, megis disgyblion sydd ag anghenion addysg a chymorth
arbennig/ychwanegol neu a fyddai fel arall yn agored i niwed, neu ddisgyblion mewn
grwpiau blwyddyn penodol; er enghraifft, disgyblion sy’n paratoi ar gyfer cymwysterau
neu sydd efallai wedi bod ymysg y rhai yr amharwyd arnynt fwyaf gan gau ysgolion yn
rhannol hyd yn hyn;
allu rhai disgyblion penodol i gadw pellter cymdeithasol;
drefniadau i staff a disgyblion yn ystod egwyliau ac amseroedd cinio, gan gynnwys
goruchwylio disgyblion yng nghyd-destun cadw pellter cymdeithasol;
unrhyw ofynion penodol i bwnc arbennig a fydd efallai’n effeithio ar y niferoedd a’r
categorïau o ddisgyblion sy’n mynd i’r ysgol.
i ba raddau y bydd angen addasu’r cynllunio, cynlluniau gwaith a rhaglenni astudio sy’n
bodoli’n barod er mwyn ystyried:
y nifer o ddisgyblion a fydd ar y safle;
oed a chamau datblygiad y disgyblion hyn;
pa mor aml y bydd disgwyl i ddisgyblion fynychu;
pa mor addas yw deunyddiau ac adnoddau ar gyfer gweithio gyda disgyblion sydd
efallai angen mynychu’r ysgol yn afreolaidd;
y disgyblion hynny sydd ag anghenion cymorth addysgol arbennig/ychwanegol.
y cymorth, yr amser a’r adnoddau y bydd angen sicrhau eu bod ar gael i athrawon ac
aelodau eraill o’r staff ar gyfer gwneud unrhyw baratoadau angenrheidiol mewn perthynas
â’r uchod;
argaeledd cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol ac argaeledd dwr poeth a sebon a
threfniadau ar gyfer glanhau arwynebau cyffwrdd yn rheolaidd drwy gydol y dydd.
Adolygu’r asesiadau risg cyfredol ar gyfer disgyblion unigol
Efallai nad yw’r rhain yn briodol bellach, neu efallai y bydd angen eu hehangu er mwyn
ystyried y sefyllfa newydd sydd wedi codi am fod natur y ddarpariaeth a gynigir wedi newid
ac oherwydd darpariaethau’r canllawiau am y clefyd COVID-19.
Gwneud asesiadau risg o ddisgyblion eraill
disgyblion sydd heb gael asesiad risg yn y gorffennol ond a allai beri risg o dan yr
amgylchiadau newydd;
disgyblion sydd angen gofal penodol, na ellir ei ddarparu gan gadw pellter cymdeithasol
ar yr un pryd;
disgyblion sydd â’r potensial i fod yn dreisgar, yn enwedig y rheiny sydd â risg hysbys o
boeri ac/neu o fod angen cael eu hatal yn gorfforol.
Fel sy’n ofynnol o dan y ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch, dylai pob asesiad risg fod yn
amodol ar ymgynghoriad gyda staff.
Adolygiad o bolisi ymddygiad disgyblion yr ysgol i sicrhau ei fod yn ymdrin â
digwyddiadau sy’n gysylltiedig â’r clefyd COVID-19
Gwneud darpariaethau i sicrhau fod yr ysgol yn gallu sancsiynu, hyd at lefel gwahardd, ac
yn cynnwys gwahardd, unrhyw ddisgyblion sy’n gwrthod yn fwriadol i gadw at y trefniadau
3
(parhad drosodd)
ˆ
cadw pellter cymdeithasol ac sy’n pesychu neu’n poeri’n fwriadol ar ddisgyblion neu staff,
gan achosi risg iddyn nhw.
Asesiad o argaeledd cludiant ysgol, gan gynnwys cludiant i ddisgyblion sydd ag
anghenion arbennig
Asesu argaeledd y cludiant a’r trefniadau sydd gan ddarparwyr cludiant i sicrhau eu bod yn
cydymffurfio â’r rheolau cadw pellter cymdeithasol.
Adolygiad o’r trefniadau cynnal a chadw arferol ar y safle
Asesu sut y bydd y gwaith hwn yn digwydd gan gadw pellter cymdeithasol ar yr un pryd ac
ystyried lleihau’r risg drwy gyfyngu’r gwaith cynnal a chadw i argyfyngau a gofynion
rheoleiddiol yn unig.
Gwneud asesiad risg o unrhyw waith adeiladu cyfalaf a ohiriwyd yn ystod y
cyfyngiadau symud, neu sydd ar waith, neu sydd wedi ei drefnu i gychwyn pan fydd yr
ysgol yn ail agor
Adolygu asesiadau risg y contractwyr yng nghyd-destun canllawiau’r llywodraeth ac
arweiniad iechyd cyhoeddus a phresenoldeb staff a disgyblion ar y safle.
Gwneud arolwg iechyd a diogelwch gyda Chynrychiolwyr Iechyd a Diogelwch yr
Undeb cyn i’r ysgol gael ei hail agor.
Trafod y cynlluniau ar gyfer ail agor, gan gynnwys yr wybodaeth am gydymffurfio â’r
darpariaethau iechyd a diogelwch, gyda chynrychiolwyr NASUWT ac undebau llafur
eraill, cyn iddyn nhw gael eu penderfynu’n derfynol ac i’r ysgol ail agor.
Adran D – Arweiniad defnyddiol
Gwefan NASUWT: www.nasuwt.org.uk.
Canllaw NASUWT am wneud asesiadau risg: www.nasuwt.org.uk/healthandsafety.
Profi a fflysio’r system ddwr a derbyn canlyniadau ysgrifenedig y profion a chadarnhad bod y
system ddwr yn ddiogel: https://www.hse.gov.uk/legionnaires/index.htm.
Profi’r larymau tân: https://www.gov.uk/workplace-fire-safety-your-responsibilities/fire-safety-
equipment-drills-and-training.
Gwirio’r gwifro sefydlog: https://www.hse.gov.uk/electricity/index.htm.
Gwirio’r goleuadau argyfwng: https://www.hse.gov.uk/pubnS/priced/hsg38.pdf.
Archwilio’r lifftiau: https://www.hse.gov.uk/pubns/priced/l113.pdf.
Arweiniad gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch: https://www.hse.gov.uk/news/
coronavirus.htm.
Arweiniad gan Lywodraeth Cymru: https://llyw.cymru/coronafeirws.
Arweiniad gan Lywodraeth y DU: https://www.gov.uk/coronavirus.
Mai 2020
4
ˆ
ˆ