Llywodraeth Cymru. Dylid rhoi ystyriaeth hefyd i:
• allu’r disgyblion i gadw eu pellter ac aros mewn grwpiau a swigod;
• drefniadau i staff a disgyblion yn ystod egwyliau ac amseroedd cinio, gan gynnwys
goruchwylio disgyblion yng nghyd-destun cadw eu pellter ac aros mewn grwpiau a
swigod;
• unrhyw ofynion penodol i bynciau arbennig, e.e. gwersi ymarferol a gwersi addysg
gorfforol, gan sicrhau bod y risgiau wedi’u hasesu sy’n benodol berthnasol iddynt.
• i ba raddau y bydd angen addasu’r cynllunio, cynlluniau gwaith a rhaglenni astudio sy’n
bodoli’n barod er mwyn ystyried:
• y nifer o ddisgyblion a fydd mewn grwpiau a swigod;
• argaeledd ac addasrwydd deunyddiau ac adnoddau ar gyfer gweithio gyda disgyblion,
o ystyried y gofynion glanhau a hylendid uwch;
• darpariaethau i ddisgyblion sydd efallai angen eu hynysu eu hunain;
• y disgyblion hynny sydd ag anghenion cymorth addysgol arbennig/ychwanegol;
• sut y rheolir amseroedd agor a chau gwahanol.
• y cymorth, yr amser a’r adnoddau y bydd angen sicrhau eu bod ar gael i athrawon ac
aelodau eraill o’r staff ar gyfer gwneud unrhyw baratoadau angenrheidiol mewn perthynas
â’r uchod;
• argaeledd cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol ac argaeledd dwr a sebon, a
threfniadau ar gyfer glanhau arwynebau cyffwrdd yn rheolaidd drwy gydol y dydd.
Adolygu’r asesiadau risg cyfredol ar gyfer disgyblion unigol
Efallai nad yw’r rhain yn briodol bellach, neu efallai y bydd angen eu hehangu er mwyn
ystyried y sefyllfa newydd sydd wedi codi am fod yr ysgol yn gwbl agored ac oherwydd
darpariaethau’r canllawiau am y clefyd COVID-19.
Gwneud asesiadau risg o ddisgyblion eraill:
• disgyblion sydd heb gael asesiad risg yn y gorffennol ond a allai beri risg unwaith y bydd
ysgolion yn agored i’r holl ddisgyblion;
• disgyblion sydd angen gofal penodol, na ellir ei ddarparu gan gadw pellter cymdeithasol
ar yr un pryd;
• disgyblion sydd â’r potensial i fod yn dreisgar, yn enwedig y rheiny sydd â risg hysbys o
boeri ac/neu o fod angen cael eu hatal yn gorfforol.
Fel sy’n ofynnol o dan y ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch, dylai pob asesiad risg fod yn
amodol ar ymgynghoriad gyda staff, NASUWT ac undebau eraill.
Adolygiad o bolisi ymddygiad disgyblion yr ysgol i sicrhau ei fod yn ymdrin â
digwyddiadau sy’n gysylltiedig â’r clefyd COVID-19
Gwneud darpariaethau yn y polisi ymddygiad i sicrhau fod yr ysgol yn gallu sancsiynu, hyd
at lefel gwahardd, ac yn cynnwys gwahardd, unrhyw ddisgyblion sy’n gwrthod yn fwriadol
i gadw at y trefniadau cadw pellter ac aros mewn grwpiau a swigod, ac sy’n pesychu neu’n
poeri’n fwriadol ar ddisgyblion neu staff, gan achosi risg iddyn nhw.
Asesiad o argaeledd cludiant ysgol, gan gynnwys cludiant pwrpasol i ddisgyblion sydd
ag anghenion arbennig
• Asesu argaeledd y cludiant a’r trefniadau sydd gan ddarparwyr cludiant i sicrhau eu bod
yn cydymffurfio â chanllawiau Llywodraeth Cymru ar gynnal hylendid a chadw pellter.
3
ˆ