Mae athrawon cyflenwi'n chwarae rôl hanfodol mewn codi a chynnal safonau addysgol uchel
mewn ysgolion. Un o'r blaenoriaethau allweddol i NASUWT yw ymgyrchu i sicrhau hawliau
proffesiynol i athrawon cyflenwi, ynghyd â sicrhau cyflogau ac amodau gwaith gweddus i'r
holl athrawon cyflenwi.
Mae NASUWT yn cydnabod bod athrawon cyflenwi wedi wynebu cyfnod hynod o anodd yn
ystod cyfyngiadau symud COVID-19. Er bod rhai athrawon cyflenwi wedi’u rhoi ar ffyrlo gan
eu hasiantaethau neu wedi parhau i gael eu talu gan yr awdurdod lleol neu’r ysgol yr oeddent
yn gweithio iddynt, mae nifer o athrawon cyflenwi wedi bod heb unrhyw incwm.
Mae NASUWT wedi’i ymrwymo i sicrhau bod gan bob aelod unigol, gan gynnwys athrawon
cyflenwi, yr wybodaeth y maent ei hangen i’w helpu i gadw’n ddiogel yn ystod pandemig y
clefyd COVID-19, yn arbennig yn ystod y broses o agor ysgolion o fis Medi ymlaen, a’r
cyfleoedd a allai fod ar gael i athrawon cyflenwi o ganlyniad.
Pwrpas y rhestr wirio hon yw helpu athrawon cyflenwi i gadw’n ddiogel yn ystod y broses o
agor ysgolion yn llawn o fis Medi 2020 ymlaen, a sicrhau eich bod yn ymwybodol o’r
cyfrifoldebau sydd gennych chi o ran cadw eich hun a phobl eraill yn ddiogel.
Nodwch y dylid ystyried y rhestr wirio hon ochr yn ochr â’r cyngor cynhwysfawr, y rhestrau
gwirio iechyd a diogelwch a’r canllawiau cysylltiedig eraill a gynhyrchwyd gan yr Undeb ynglŷn
â’r broses o agor ysgolion o fis Medi 2020 ymlaen, gan gynnwys canllawiau sy’n ymdrin yn
benodol â materion iechyd a diogelwch athrawon cyflenwi, sydd ar gael ar:
https://www.nasuwt.org.uk/advice/health-safety/coronavirus-guidance/full-reopening-of-
schools/full-reopening-of-schools-wales.html.
Mae canllawiau gweithredol Llywodraeth Cymru ar sut i agor ysgolion ar ddechrau’r tymor
newydd ym mis Medi 2020 ar gael ar dudalen we Llywodraeth Cymru: ‘Canllawiau gweithredol
ar gyfer ysgolion a lleoliadau o dymor yr hydref’.
Mae’r canllawiau’n cadarnhau bod caniatâd i athrawon cyflenwi symud rhwng ysgolion, ar yr
amod eu bod yn cydymffurfio â threfniadau’r ysgol ar gyfer rheoli a lleihau risgiau, a’u bod yn
arbennig o ofalus i gadw pellter oddi wrth aelodau eraill o’r staff a disgyblion.
Cyn i chi dderbyn gwaith cyflenwi i asiantaethau/ysgolion, er mwyn cadw’n ddiogel,
dylech ofyn am y canlynol:
Yr asesiad risg cyffredinol ar gyfer yr ysgol.
Y gweithdrefnau a’r trefniadau diogelu i’r staff eu dilyn i ostwng y risg o drosglwyddo’r
firws.
Y trefniadau sydd ar waith i gadw athrawon cyflenwi’n ddiogel wrth gyrraedd y gweithle
a rhoi gwybod eu bod yn bresennol.
Unrhyw addasiadau rhesymol y byddwch efallai eu hangen os oes gennych chi unrhyw
anabledd neu os ydych yn feichiog neu’n fam sy’n bronfwydo.
Manylion y trefniadau ar gyfer cadw pellter cymdeithasol a lleihau cyswllt.
(parhad drosodd)
ATHRAWON CYFLENWI
Cyngor i athrawon cyflenwi ynglŷn â sut i gadw’n ddiogel yn
ystod y broses o agor ysgolion yn llawn o fis Medi 2020 ymlaen
Manylion unrhyw berson cyswllt dynodedig, os bydd gennych unrhyw gwestiynau sy’n
ymwneud â COVID-19 neu faterion eraill, neu os bydd problem neu argyfwng yn codi,
gan gynnwys i ble ac i bwy y dylech roi gwybod eich bod wedi cyrraedd bob dydd.
Fel athro cyflenwi/athrawes gyflenwi, pan fyddwch yn cyrraedd eich gwaith am y tro
cyntaf yn yr ysgol (neu o flaen llaw, os yn bosibl), er mwyn cadw’n ddiogel, dylech ofyn
am y canlynol:
Manylion unrhyw berson cyswllt dynodedig, os bydd gennych unrhyw gwestiynau sy’n
ymwneud â COVID-19 neu faterion eraill, neu os bydd problem neu argyfwng yn codi.
Manylion le i fynd a phwy i fynd atynt i roi gwybod eich bod wedi cyrraedd bob dydd,
gan gynnwys manylion y broses o gofrestru.
Manylion y trefniadau sydd ar waith y bydd disgwyl i chi eu dilyn i sicrhau bod pellter
corfforol priodol yn cael ei gadw.
Unrhyw ganllawiau i’r staff am arferion gweithio i gadw’n ddiogel rhag COVID-19.
Manylion ynglŷn â sut i godi unrhyw bryderon ynglŷn ag iechyd a diogelwch, gan
gynnwys y rheiny sy’n benodol berthnasol i’r clefyd COVID-19.
Manylion ynglŷn â sut i alw am gymorth, gan gynnwys cymorth cyntaf, yng nghyd-destun
COVID-19.
Taith o amgylch safle’r ysgol gan nodi’r ystafelloedd lle byddwch yn addysgu, yn ogystal
â manylion unrhyw systemau llif unffordd neu systemau eraill o’r fath sydd ar waith i
leihau cyswllt a chadw pellter cymdeithasol.
Manylion yr ystafell cymorth cyntaf agosaf, neu’r man priodol agosaf, gan gynnwys i ble
y dylech anfon y rheiny sy’n dangos symptomau posibl y clefyd COVID-19.
Manylion yr allanfa dân agosaf ac unrhyw gynlluniau gwacáu sydd wedi’u diwygio yng
nghyd-destun COVID-19, gan gynnwys gweithdrefnau a llwybrau dianc.
Manylion y camau gweithredu i’w cymryd os bydd achos posibl o’r clefyd COVID-19.
Manylion yr ystafell athrawon a’r toiledau a’r trefniadau sydd ar waith ar gyfer lleihau
cyswllt a chadw pellter cymdeithasol.
Copi o’r amserlen sy’n nodi egwyliau ac amseroedd cinio, yn ogystal â’r hyn a ddisgwylir
gan y staff yn ystod cyfnodau o’r fath.
Manylion ynglŷn â sut i gael gafael ar wybodaeth berthnasol am y cynlluniau gwaith ar
gyfer y pynciau y bydd disgwyl i chi eu haddysgu.
Manylion ynglŷn â sut i gael gafael ar gyfrifiaduron (e.e. gliniaduron neu gyfrifiaduron
sefydlog), gan gynnwys y manylion mewngofnodi a’r camau gweithredu i’w cymryd ar
ddiwedd y diwrnod ysgol.
Manylion unrhyw adnoddau y gellid yn rhesymol ddisgwyl i chi eu darparu i leihau cyswllt
(e.e. ysgrifbinnau ac ati) ac ymhle y gellir eu storio’n ddiogel.
Manylion yr hylif diheintio dwylo sydd ar gael, a sut i gael gafael arno, er mwyn eich
galluogi i olchi eich dwylo’n aml am o leiaf 20 eiliad drwy gydol y diwrnod ysgol.
Manylion ynglŷn â sut i gael gafael ar gyfarpar diogelu personol (PPE) priodol, sut i’w
defnyddio, ac ymhle i gael gafael ar ddŵr poeth a sebon, yn ogystal â’r trefniadau ar
gyfer glanhau arwynebau cyffwrdd yn rheolaidd drwy gydol y dydd.
Rhestr o’r disgyblion sydd yn y dosbarth(iadau) y byddwch yn eu haddysgu, gan gynnwys
manylion unrhyw gyflyrau meddygol, problemau ymddygiad, neu anghenion addysgol
arbennig ac anableddau (AAAA), ynghyd â manylion y ffordd y dylent gael eu rheoli yn
ystod pandemig y clefyd COVID-19 (e.e. addasiadau rhesymol, asesiadau risg unigol).
(parhad drosodd)
Manylion unrhyw ddisgyblion y gwyddys eu bod â’r potensial i fod yn dreisgar, ynghyd
ag unrhyw asesiadau risg cysylltiedig sydd yn eu lle ac sydd wedi’u diwygio yng nghyd-
destun COVID-19, gan gynnwys unrhyw hyfforddiant penodol sy’n ofynnol, ynghyd â sut
i fynd ati’n briodol i drefnu eich bod yn ei dderbyn.
Manylion y broses gofrestru a’r hyn a ddisgwylir gan y disgyblion o ran symud yn briodol
o amgylch safle’r ysgol rhwng gwersi, yn ystod egwyliau ac amseroedd cinio, ac ar
ddiwedd y diwrnod ysgol.
Manylion sy’n benodol berthnasol i drefn reoli ymddygiad yr ysgol, gan gynnwys y
gefnogaeth sydd ar gael i’ch helpu i reoli ymddygiad yn effeithiol gan leihau cyswllt a
chadw pellter cymdeithasol.
Manylion unrhyw ddigwyddiadau, cyfarfodydd neu weithgareddau penodol a fydd yn cael
eu cynnal yn ystod y penodiad.
Eich dyletswyddau fel athro cyflenwi/athrawes gyflenwi
Er mwyn cadw’n ddiogel yn ystod y broses o agor ysgolion o fis Medi ymlaen, mae dyletswydd
arnoch chi i gymryd gofal rhesymol o’ch iechyd a’ch diogelwch eich hun ac iechyd a diogelwch
pobl eraill a allai gael eu heffeithio gan eich gweithredoedd yn y gwaith, yn arbennig yn ystod
pandemig y clefyd COVID-19.
Mae’n rhaid i chi gydweithio â’ch asiantaeth a’r defnyddiwr terfynol yn y fan lle’r ydych yn
gweithio, gan gynnwys rhoi unrhyw wybodaeth iddynt a allai olygu bod angen gwneud asesiad
risg cyn i chi dderbyn y penodiad yn yr ysgol.
Er enghraifft, os oes pryder ynglŷn â’ch sefyllfa sy’n ei gwneud hi’n anodd i chi dderbyn
penodiad yn yr ysgol, neu y dylech ei ddatgelu i’r ysgol o flaen llaw, yna dylech ddatgelu’r
wybodaeth hon gynted ag y gallwch (e.e. os ydych yn feichiog neu o gefndir du neu leiafrifoedd
ethnig).
Unwaith y byddwch wedi datgelu gwybodaeth o’r fath i’r asiantaeth, bydd ganddynt
ddyletswydd statudol i ystyried unrhyw drefniadau sy’n angenrheidiol i’ch galluogi i dderbyn
pob penodiad yn ddiogel.
Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974
Mae Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 yn gosod cyfrifoldeb ar bob cyflogwr i
sicrhau iechyd a diogelwch ei gyflogeion a phobl eraill yn ei weithle, cyn belled ag y bo’n
rhesymol ymarferol. Mae hyn yn cynnwys canfod ac asesu risgiau i iechyd a diogelwch, a
chymryd camau i ostwng neu ddiddymu’r risgiau hyn, er mwyn sicrhau diogelwch y bobl hynny
sy’n gweithio mewn ysgolion o fis Medi 2020 ymlaen, gan gynnwys athrawon cyflenwi.
O dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974, mae gan y darparwr (h.y. yr asiantaeth
gyflenwi) a’r defnyddiwr terfynol gydgyfrifoldeb am sicrhau iechyd a diogelwch gweithwyr
asiantaeth, megis athrawon cyflenwi.
Mae hyn yr un mor berthnasol i chi os ydych yn cael eich cyflenwi gan gwmni ymbarél, am
mai’r cwmni hwn yw eich cyflogwr yn ôl y gyfraith.
Wrth baratoi ar gyfer agor ysgolion a chadw pobl yn ddiogel o fis Medi 2020 ymlaen, dylai
asiantaethau a chwmnïau ymbarél gymryd camau rhesymol i’w sicrhau eu hunain bod unrhyw
faterion iechyd a diogelwch yn derbyn sylw mewn ffordd foddhaol yn yr ysgolion y bydd
disgwyl i chi weithio ynddynt o bosib yn rhan o’ch penodiadau, ac mae hyn yn cynnwys y
camau priodol i leihau’r risg o ddal y clefyd COVID-19.
Dylai’r asiantaeth roi’r wybodaeth berthnasol i chi mewn da bryd er mwyn i chi allu
ymgyfarwyddo’n llawn â’r sefyllfa ar safle’r cyflogwr hwnnw.
(parhad drosodd)
Dylai’r asiantaeth hefyd sicrhau eich bod yn derbyn y manylion ynglŷn â sut i godi unrhyw
bryderon yn ymwneud ag iechyd a diogelwch yn y gweithle.
Rheoliadau Ymddygiad Asiantaethau Cyflogaeth a Busnesau Cyflogaeth 2003
Mae Rheoliad 18 yn Rheoliadau Ymddygiad Asiantaethau Cyflogaeth a Busnesau Cyflogaeth
2003 hefyd yn rhoi disgwyliad ar asiantaethau i sicrhau a darparu gwybodaeth am bob ysgol,
gan gynnwys unrhyw risgiau neu unrhyw broblemau ynglŷn ag iechyd a diogelwch a welir
mewn asesiadau risg trwyadl, gan gynnwys y risg o ddal y clefyd COVID-19.
Ymhellach, os na fydd y penodiad yn pennu cyfnod hysbysu, mae'r Rheoliadau Ymddygiad
yn cynnwys darpariaethau sy'n eich caniatáu i adael y swydd unrhyw bryd os byddwch yn
teimlo'n anniogel, gan gadw'r hawl i gael eich talu am y gwaith yr ydych wedi'i wneud hyd
hynny.
Hydref 2020
4