Rhestr wirio’r datganiad cydymurfio
Mae’r rhestr wirio hon wedi ei dylunio i’ch helpu chi i gwblhau eich datganiad
cydymuro ar-lein. Mae’n dangos i chi’r holl wybodaeth fydd ei hangen arnoch a lle
y gallwch ddod o hyd iddi.
Mae’n rhaid i chi gwblhau eich datganiad cydymurfio i ddweud wrthym sut rydych
chi wedi cyawni eich dyletswyddau cyfreithiol.
Mae angen i chi roi’r holl wybodaeth isod i’r rheolydd. Gwnewch yn siwr eich bod yn
dechrau eich datganiad cyn eich dyddiad cau oherwydd efallai y bydd yr wybodaeth
sydd ei hangen arnoch yn cymryd amser iw pharatoi.
Gwybodaeth y bydd angen i chi ei darparu Nodiadau canllaw
Cyfeirnod(au) cynllun TWE ar gyfer
pob cynllun TWE y mae’r cyogwr yn ei
ddefnyddio
Os ydych chi’n gweithredu mwy nag un cynllun TWE, mae’n rhaid i chi
ddarparu manylion ar gyfer pob un ohonynt. Mae eich cyfeirnod TWE
i’w weld ar y llythyr rydych wedi ei gael gennym ynghylch cofrestru
awtomatig. Gallwch ei weld hefyd ar y llythyr a gawsoch gan Gyllid a
Thollau EM pan gofrestroch chi gyntaf fel cyflogwr, neu och meddalwedd
cyflogres.
Cod y llythyr gan y Rheolydd Pensiyna Eich cod 10 digid unigryw ar dop pob llythyr cofrestru awtomatig rydych
yn ei gael gennym ni. Os oes angen i chi gwblhau datganiad ar gyfer mwy
nag un cyogwr, bydd arnoch angen cod y llythyr ar gyfer pob un.
Eich manylion cyswllt Eich enw, cyfeiriad, rhif ôn a chyfeiriad e-bost.
Eich perthynas â’r cyogwr Er enghrait, asiant fel cyfrifydd neu gynghorydd ariannol. Os mai chi
yw’r cyflogwr, nodwch ‘Cyflogwr’.
Enw’r cyflogw Y sefydliad neu’r unigolyn sy’n cyogi sta.
1. Rhif Ty’r Cwmau
2. Rhif cymdeithasau diwydiannol a
darbodus
3. Rhif cofrestru’r elusen
4. Rhif cofrestru TAW
Dim ond un o’r rhain os oes gennych chi’r rhain. Os nad oes gennych
chi unrhyw un o’r rhain yna ticiwch y gyfres o focsys sy’n nodi nad oes
gennych chi’r rhain.
Manylion cyswllt y cyflogwr Enw a theitl swydd y perchennog neu’r unigolyn sydd â’r statws uchaf yng
nghwmni’r cyflogwr. Gallai hyn fod y sawl sy’n cyogi cynorthwyydd gofal
personol neu’n rhywun i’w helpu yn y cartref. Ni ddylech roi enw asiant
neu drydydd parti sy’n cwblhau datganiad ar ran y cyogwr.
Cyfeiriad e-bost y cyflogwr Bydd y Rheolydd Pensiynau yn anfon yr holl ddogfennau swyddogol a
hysbysiadau cyfreithiol atoch chi yn y post.
Os ydych chi’n cytuno, mae’n bosibl y byddwn yn eu hanfon drwy e-bost
hefyd.
Cyfeiriad gohebiaeth y cyflogwr Eich prif gyfeiriad neu gyfeiriad y cwmni cofrestredig.
Math o gynllun(iau) pensiwn a ddefnyddir
ar gyfer cofrestru awtomatig (personol neu
alwedigaethol)
Os nad ydych chi’n sicr pa fath o gynllun sydd gennych chi, cysylltwch â’ch
cynllun pensiwn.
Sylwch fod NEST yn gynllun pensiwn galwedigaethol.
Cyfeirnod cynllun pensiwn y cyflogwr (EPSR) Dyma gyfeirnod unigryw eich cynllun pensiwn, sydd iw weld ar unrhyw
ohebiaeth gan eich darparwr pensiynau. Ar gyfer NEST, dyma ‘ID NEST
y cyogwr’ neu ar gyfer cynlluniau eraill gellir ei ddisgrifio hefyd fel rhif
polisi’r grwp.
Mae’r cyfeirnod hwn ar ohebiaeth oddi wrth eich cynllun pensiwn. Os nad
ydych chi’n sicr, cysylltwch â’ch cynllun pensiwn.
Mae’n rhaid i chi gwblhau eich
datganiad gyda’r Rheolydd Pensiynau
o fewn pum mis calendr ar ôl i’ch
dyletswyddau ddechrau neu eich
dyddiad gweithredu.
Ewch i:
www.tpr.gov.uk/online-declare-cy
Mae’r rhestr wirio hon wedi ei llunio i’ch helpu chi i gydymurfio â’ch dyletswyddau cyfreithiol o dan Reoliadau a Deddf Pensiynau
2008. Er y gallwn gynnig arweiniad i chi, ni ddylid ystyried bod y rhestr wirio hon yn cymryd lle’r gyfraith nac yn ddehongliad
awdurdodol ohoni. Os oes gennych unrhyw amheuon am eich dyletswyddau cyfreithiol dylech ofyn am gyngor cyfreithiol neu gyngor
arbenigol arall.
*Darparwch fgurau cywir lle gofynnwn i chi ddarparu rhifau neu fgurau.
Gwybodaeth y bydd angen i chi ei darparu Nodiadau canllaw
Rhif cofrestru’r cynllun pensiwn (PSR) Bydd angen hwn arnoch ar gyfer pob cynllun pensiwn heblaw
am NEST. Rhif 8 digid yw hwn, sy’n dechrau gydag 1. Dylai fod
eich cynllun pensiwn wedi rhoi hwn i chi’n barod. Os nad ydych
chi’n sicr, cysylltwch â nhw.
Enw a chyfeiriad y cynllun(iau) pensiwn a
ddefnyddiwyd ar gyfer cofrestru’n awtomatig
Os nad oes gennych PSR mae’n rhaid i chi lenwi’r adran hon.
Diwrnod olaf y cyfnod(au) gohirio
Dim ond os ydych chi wedi gohirio y mae hwn yn
berthnasol
Ni allwch gwblhau eich datganiad tan ar ôl y dyddiad hwn, er
ein bod yn eich annog i ddechrau eich datganiad cyn gynted â
phosibl.
Cyfanswm nifer* y sta a gyflogir ar ddyddiad dechrau
eich dyletswyddau neu eich dyddiad gweithredu
Dyma gyfanswm nifer y sta a gyflogir gennych ar ddyddiad
dechrau eich dyletswyddau neu eich dyddiad gweithredu. Mae
hyn yn cynnwys cynorthwywyr gofal personol a phobl a gyflogir
ich helpu chi yn eich cartref.
Nifer* y sta y bu’n rhaid i chi eu cynnwys mewn
cynllun pensiwn
Dyma nifer y sta y bu’n rhaid i chi eu cynnwys mewn cynllun
pensiwn ar y dyddiad roedd eich dyletswyddau’n dechrau
neu eich dyddiad gweithredu (neu eich dyddiad gohirio).
Dylai hyn gynnwys unrhyw un a ofynnodd am gael gadael y
cynllun neu a adawodd eich cyflogaeth ers dyddiad dechrau
eich dyletswyddau neu eich dyddiad gweithredu. Peidiwch â
chynnwys unrhyw un a ofynnodd am gael ymuno â’ch cynllun
pensiwn neu a oedd eisoes mewn cynllun pensiwn ar ddyddiad
dechrau eich dyletswyddau neu eich dyddiad gweithredu.
Nifer* y sta a oedd eisoes yn aelodau o gynllun
pensiwn (ar ddyddiad dechrau eich dyletswyddau neu
eich dyddiad gweithredu)
Dyma nifer y bobl, ar ddyddiad dechrau eich dyletswyddau neu
eich dyddiad gweithredu, a oedd eisoes mewn cynllun pensiwn
a drefnwyd gennych ar eu cyfer. Peidiwch â chynnwys unrhyw
un y bu’n rhaid i chi eu cynnwys mewn cynllun ar ddyddiad
dechrau eich dyletswyddau neu eich dyddiad gweithredu.
Peidiwch â chynnwys unrhyw un a ofynnodd am gael ymuno
neu a gafodd ei gynnwys mewn cynllun ar ôl dyddiad dechrau
eich dyletswyddau neu’r dyddiad gweithredu.
Ydych chi’n defnyddio’r cyfnod trosglwyddo
buddiannau penodedig?
Nid yw’r cyfleuster hwn ar gael mwyach. Nodwch ‘Nac ydw.
Nifer* y sta nad ydynt yn perthyn i unrhyw un o’r
categorïau uchod
Pawb arall a oedd yn gweithio i chi ar ddyddiad dechrau eich
dyletswyddau neu eich dyddiad gweithredu nad ydych chi
wedi sôn amdanynt yn barod. Mae hyn yn cynnwys y rheini
a ofynnodd am gael ymuno â’ch cynllun pensiwn ac unrhyw
un sydd ers hynny wedi gadael eich cyflogaeth. Ni ddylai hyn
gynnwys unrhyw un a ddechreuodd weithio i chi ar ôl dyddiad
dechrau eich dyletswyddau neu eich dyddiad gweithredu.
Gair o gyngor
1. Sicrhewch eich bod wedi paratoi - bydd angen yr holl wybodaeth ar y rhestr wirio hon.
2. Eich cyfrifoldeb chi fel cyogwr yw hyn - peidiwch â chymryd y bydd asiant, trydydd parti neu eich cynllun pensiwn yn gwneud
hyn ar eich rhan.
3. Dechreuwch mewn da bryd gyda’r wybodaeth rydych chi eisoes yn ei gwybod - mae modd cadw unrhyw beth y byddwch chi’n
ei ychwanegu ar unrhyw adeg.
4. Os oes rhaid i chi gynnwys staff mewn cynllun pensiwn, cwblhewch eich datganiad cyn gynted ag y byddwch wedi gwneud hyn.
5. Dim ond y cynlluniau pensiwn rydych chi wedi eu defnyddio i gynnwys eich staff er mwyn eu cofrestru’n awtomatig y dylech sôn
wrthym amdanynt.
6. Sicrhewch eich bod yn gwybod am bob cynllun TWE rydych yn ei ddefnyddio ac yn dweud wrthym amdanynt.
© Y Rheolydd Pensiynau Chwefror 2018
AE DEC CHECKLIST w (10/18)