Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru,
Pencadlys yr Heddlu, Glan y Don, Bae Colwyn LL29 8AW
North Wales Police and Crime Commissioner,
Police Headquarters, Glan y Don, Colwyn Bay LL29 8AW
Ffôn / Tel: 01492 805486
E-bost / Email: opcc@nthwales.pnn.police.uk
Ffurflen Adolygiad Comisiynydd Heddlu a
Throsedd Gogledd Cymru
DEFNYDDIO’R FFURFLEN HON
Defnyddiwch y ffurflen hon os ydych yn anhapus ynghylch canlyniad eich cwyn. Rhaid i
Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd (SCHTh) dderbyn eich cais am adolygiad
o fewn 28 diwrnod o’r dydd ar ôl y dyddiad a nodir ar eich llythyr canlyniad oddi wrth
Heddlu Gogledd Cymru. Er enghraifft, os yw eich llythyr wedi ei ddyddio’r 1
af
o Ebrill, rhaid i
chi sicrhau ein bod yn derbyn eich cais am adolygiad erbyn y 29
ain
o Ebrill.
HYGYRCHEDD
Os yw’n anodd i chi ddefnyddio’r ffurflen hon neu’r gwasanaeth hwn, er enghraifft, os nad
Cymraeg yw’ch iaith gyntaf neu mae gennych anabledd, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r
manylion cyswllt a ddarperir isod:
Ffôn: 01492 805486
E-bost: opcc@nthwales.pnn.police.uk
Os oes angen unrhyw addasiadau arnoch i’ch cefnogi drwy’r system adolygiad, amlinellwch
y rhain isod os gwelwch yn dda. Er enghraifft, os oes gennych nam golwg, efallai y byddwch
angen ymatebion ysgrifenedig mewn testun mwy o faint.
BETH SY’N DIGWYDD I’R WYBODAETH YN FY
FFURFLEN ADOLYGIAD?
Bydd y wybodaeth a ddarparwch ar y ffurflen hon yn cael ei hychwanegu i’n systemau.
Hefyd, mae’n bosibl y bydd angen i ni roi manylion eich adolygiad i Heddlu Gogledd Cymru
a/neu Adolygydd Annibynnol a fydd yn ystyried eich adolygiad ac yn gwneud argymhellion i’r
Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd. Noder: Gall holl gynnwys y ffurflen hon (gan gynnwys
eich gwybodaeth cydraddoldeb ac amrywiaeth) gael ei gyflwyno i Heddlu Gogledd Cymru a’r
Adolygydd Annibynnol.
Os oes gennych unrhyw bryderon am eich gwybodaeth yn cael ei rhoi i’r heddlu, neu os oes
angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch am y ffordd y bydd eich data’n cael ei drin,
ffoniwch ni ar 01492 805486.
Am wybodaeth yngl n â’r ffordd yr ydym yn ymdrin â’ch gwybodaeth bersonol, darllenwch
ein hysbysiad preifatrwydd sydd ar gael ar ein gwefan.
BLE I ANFON Y FFURFLEN ADOLYGIAD HON
Anfonwch eich ffurflen orffenedig at Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd (SCHTh).
Gweler y manylion cyswllt isod:
E-bost: opcc@nthwales.pnn.police.uk
Cyfeiriad: Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Pencadlys yr Heddlu,
Glan y Don, Bae Colwyn LL29 8AW