Amcanion Cydraddoldeb - Ymgynghoriad
Ers cyflwyno Deddf Cydraddoldeb 2010 mae Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru a
Chomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru wedi gosod amcanion ar y cyd o fewn y
Cynllun Cydraddoldeb Sengl.
Mae’r amcanion hyn wedi bod yn sail i waith sylweddol o ran cydraddoldeb dros y blynyddoedd
sydd wedi galluogi’r ddau sefydliad gyflawni gofynion Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector
Gyhoeddus.
Pan ydym yn adolygu ein hamcanion yr ydym yn dadansoddi'r tueddiadau trosedd lleol a
chenedlaethol, gwybodaeth gan yr heddlu, ymchwil cenedlaethol ac yn ymgysylltu gyda staff a
chymunedau.
Dyma'r pedwerydd tro byddwn yn ysgrifennu cynllun newydd
1
ac yr ydym felly unwaith eto yn
ceisio cael eich barn chi am yr hyn ydych yn credu dylai fod yn flaenoriaethau cydraddoldeb ar
gyfer Heddlu Gogledd Cymru a Chomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru wrth i ni
weithio i ddatblygu gogledd Cymru mwy diogel.
Mynegwch eich barn ar ba amcanion cydraddoldeb ddylai gael eu gosod drosodd os gwelwch yn
dda. Ein blaenoriaethau presennol yw:
• Monitro ac asesu ein hagwedd tuag at y Ddeddf Cydraddoldeb ymhob maes busnes gan
sicrhau fod cydraddoldeb a thegwch yn bodoli drwy’r sefydliad ac ar draws ein
blaenoriaethau plismona.
• Sicrhau ein bod yn ymgysylltu ac yn cyfathrebu gyda phobl Gogledd Cymru ac yn gwneud
hynny mewn modd sydd yn cynnwys pawb ac sydd yn hawdd iddynt gael mynediad ato.
• Datblygu gweithlu sy’n gynrychioladol, ac yn adlewyrchu poblogaeth Gogledd Cymru.
• Cynyddu hyder aelodau’r gymuned i riportio troseddau casineb a thrais domestig.
• Craffu ar ein gweithgareddau stopio a chwilio yng Ngogledd Cymru ac ymateb i unrhyw
anghyfartaledd.
1
Mae fersiynau blaenorol yn cynnwys:
2012-2016 – Heddlu Gogledd Cymru ac Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru,
2012-2016 – Heddlu Gogledd Cymru a Chomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru (1),
2015-2019 – Heddlu Gogledd Cymru a n Chomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru (2).