Pre-App Form FINAL Version 05_11_18 Rev
Tudalen 14 o 31
gyfer eich safle trwy roi syniad cynnar o’r hyn sydd yn cydymffurfio â’r Safonau SuDS
Cenedlaethol neu beidio.
Darparwch cymaint o wybodaeth dechnegol â phosibl i’r SAB er mwyn iddynt roi
ymateb ystyriol a rhesymegol yn y cam Cyn Ymgeisio a'r cam Cais Llawn h.y. po
fwyaf o wybodaeth a ddarperir yn y cam Cyn Ymgeisio, gellir rhoi cyngor technegol
mwy manwl.
Dylai’r asesiad draenio dŵr wyneb sy’n benodol i’r safle a gofynion SuDS gael eu
hintegreiddio gyda’r Asesiad o Ganlyniadau Llifogydd (FCA), a dylai Adroddiad
Draenio Llifogydd a Dŵr Wyneb gael ei ddarparu i’r LPA a’r SAB.
Cyfeiriwch at ddogfennau cenedlaethol a lleol allweddol cyn, ac yn ystod dylunio’r
cysyniad, y dyluniad manwl, cymeradwyaethau SAB ac LPA, adeiladu, mabwysiadu,
gweithredu a chynnal a chadw cynllun SuDS. Mae rhestr o’r dogfennau hyn, ynghyd â
dolenni iddynt i’w gweld yn y Canllaw ar gyfer Gwneud Cais System Draenio
Cynaliadwy ar gyfer Cymeradwyaeth SAB.
Yn benodol ar gyfer y cais Cyn Ymgeisio:
• Fe allai ffi Cyn Ymgeisio fod yn daladwy i’r SAB;
• I sicrhau Cais Dilys, mae’n RHAID ateb pob cwestiwn ar y ffurflen, a dylid
darparu cymaint o wybodaeth ategol gychwynnol â phosibl fel y nodir yn y
Canllaw ar lenwi’r Ffurflen Cyn Ymgeisio;
• Dylai eich atebion i gwestiynau adlewyrchu anghenion penodol y Safonau
Cenedlaethol Statudol;
• Unwaith y bydd eich ffurflen gais, ynghyd ag unrhyw ddeunydd ategol wedi cael
ei gyflwyno’n gywir i'r SAB, bydd yn cael ei wirio;
• Os ystyrir ei fod yn Gais Dilys, bydd eich cais yn cael ei asesu’n dechnegol, a
bydd swyddog SAB yn cysylltu â chi i gychwyn ar drafodaethau Cyn
Ymgeisio;
• Nid oes yna raddfa amser statudol ar gyfer y broses Cyn Ymgeisio. Mae hyn
yn golygu bod digon o amser yn cael ei neilltuo i drafod, datblygu a chytuno ar
gynigion ar gyfer eich dyluniad cynllun System Draenio Cynaliadwy (o’r syniad
cychwynnol i’r dyluniad terfynol), ynghyd â materion cysylltiedig eraill, gyda
swyddogion SAB; y cyfan cyn i chi gyflwyno eich Cais Llawn;
• Er mwyn cael trafodaethau cynhyrchiol Cyn Ymgeisio, mae’n bwysig eich
bod yn darparu cymaint o wybodaeth dechnegol gychwynnol cyn gynted â
phosibl yn ystod y broses ddatblygu. Bydd hyn yn cynorthwyo trafodaethau
“penodol am y datblygiad” i ddechrau am: cymeriad y safle a’r datblygiad, is-
ddalgylchoedd dŵr wyneb a llwybrau llif, a’r cysyniad dylunio cyffredinol ac ati;
• Dylid cyfeirio’n fuan at y dogfennu statudol sydd wedi’u rhestru yn y canllaw
hwn, a dylid ystyried hyfywedd safle i dderbyn cynllun System Draenio
Cynaliadwy priodol yn ofalus, cyn cyflwyno cais Cyn Ymgeisio;