Full App Form FINAL Version 05_11_18 Rev
Tudalen 18 o 32
Darparwch cymaint o wybodaeth dechnegol â phosibl i’r SAB er mwyn iddynt roi
ymateb ystyriol a rhesymegol yn y cam Cyn Ymgeisio a'r cam Cais Llawn h.y. po
fwyaf o wybodaeth a ddarperir yn y cam Cyn Ymgeisio, gellir rhoi cyngor technegol
mwy manwl.
Dylai’r asesiad draenio dŵr wyneb sy’n benodol i’r safle a gofynion SuDS gael eu
hintegreiddio gyda’r Asesiad o Ganlyniadau Llifogydd (FCA), a dylai Adroddiad
Draenio Llifogydd a Dŵr Wyneb gael ei ddarparu i’r LPA a’r SAB.
Cyfeiriwch at ddogfennau cenedlaethol a lleol allweddol cyn, ac yn ystod dylunio’r
cysyniad, dyluniad manwl, cymeradwyaethau SAB ac LPA, adeiladu, mabwysiadu,
gweithredu a chynnal a chadw cynllun SuDS. Mae rhestr o’r dogfennau hyn, ynghyd
â dolenni iddynt i’w gweld yn y Canllaw ar gyfer Gwneud Cais am System
Draenio Cynaliadwy i gael cymeradwyaeth y SAB.
Yn benodol ar gyfer y Cais Llawn:
• I sicrhau Cais dilys, mae’n RHAID ateb POB cwestiwn ar y ffurflen, ac mae’n
RHAID cyflwyno POB deunydd atodol fel y nodir yn y Canllaw ar gwblhau'r
Ffurflen Cais Llawn (neu fel y cytunir fel arall gyda'r SAB);
• Dylai eich atebion i gwestiynau fod yn gynhwysfawr ac adlewyrchu anghenion
penodol y Safonau Cenedlaethol Statudol;
• Unwaith y bydd eich ffurflen gais, ynghyd ag unrhyw ddeunydd ategol wedi
cael ei gyflwyno i'r SAB, bydd yn cael ei wirio;
• Dylech fod yn ymwybodol os nad yw’r cwestiynau wedi cael eu hateb fel
y nodir ar y ffurflen ac yn ôl y gofynion uchod, bydd eich cais yn cael ei
wrthod yn awtomatig;
• Os ystyrir ei fod yn gais dilys, bydd eich cais yn cael ei asesu’n dechnegol
gan y SAB;
• Unwaith y bydd Cais Llawn ar gyfer Cynllun SuDS wedi cael ei dderbyn,
bydd y SAB yn penderfynu ar y cais gan ddefnyddio’r wybodaeth dechnegol a
gwybodaeth arall a gyflwynir gyda’r cais llawn yn unig;
• Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y bydd SAB yn cysylltu â chi wrth
asesu Cais Llawn ar gyfer Cynllun SuDS, felly mae’n hanfodol bod unrhyw
ansicrwydd technegol neu faterion yn cael eu datrys gan bob parti yn rhan o’r
broses Cyn Ymgeisio, a chyn i’r Cais Llawn gael ei gyflwyno;
• Yn unol â'r gofynion statudol, bydd SAB yn rhoi gwybod i chi am ganlyniad
asesiad technegol eich Cais Llawn; a
• Fe allai’r Cais Llawn gael ei Gymeradwyo yn amodol ar Amodau neu fe ellir
ei Wrthod, beth bynnag yw’r penderfyniad, cewch wybod y rhesymau.
Darparwch un copi caled ac un copi electronig, a’i anfon i SAB.Cais@rctcbc.gov.uk
Cyfeiriwch at y penodau, a chyfeiriadau ychwanegol a nodir yn Ciria SuDS Manual
C753.